Iaith

English
Facebook

Ffôn: 01938 810324 E-bost: eleri@llanoddian.co.uk
Llanoddian Isaf, Dolanog, Y Trallwng, Powys, Canolbarth Cymru. SY21 OJU

Menu

Amdanom ni

Croeso i Fythynnod Llanoddian Isaf, sef dau fwthyn hunanddarpar moethus yng Nghanolbarth prydferth Cymru.

Mae’r bythynnod gwyliau, Y Beudy ac Ysgubor, yng nghefn gwlad trawiadol yr ardal ger Dolanog, ryw naw milltir o’r Trallwng. Mae’r bythynnod ar dir tyddyn, sy’n sefyll rhyw ychydig yn ôl o lôn wledig dawel, gan greu awyrgylch heddychlon ac eidylig. Gall y rheiny sydd eisiau ymlacio’n llwyr a dianc oddi wrth bwysau bywyd bob dydd grwydro o amgylch tua 24 erw o ffermdir preifat sy’n gartref i’n praidd defaid.

Er bod lleoliad gwledig y bythynnod gwyliau’n gwneud ichi deimlo’ch bod chi’n bell iawn i ffwrdd o fywyd trefol, maen nhw mewn lle delfrydol i anturio trwy lawer o Ganolbarth Cymru. Mae’r ardal yn baradwys i gerddwyr, gan gynnig teithiau cerdded enwog Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Thaith Goffa Ann Griffiths. Gall gwesteion hefyd ymweld â threfi marchnad y Trallwng, y Drenewydd a Chroesoswallt gerllaw, a dim ond 12 milltir i ffwrdd mae Llyn Efyrnwy prydferth.

Mae’r bythynnod hunanddarpar eu hunain yn cynnig llety moethus, pum seren. Maen nhw wedi’u haddurno mewn steil traddodiadol, gwledig ond maen nhw hefyd yn foethus eu naws: mae trawstiau derw, gratiau brics a soffas lledr cyfforddus yn creu awyrgylch i ymlacio’n llwyr ynddo. Mae yna ddigonedd o le yn y bythynnod gwyliau, â gwelyau ar gyfer pump o bobl yn y naill fwthyn ac ar gyfer chwech o bobl yn y llall, ac mae popeth ar gael i wneud eich gwyliau hunanddarpar yn berffaith.

Mae Eleri a Gwynne Thomas wedi bod yn rhedeg y bythynnod hunanddarpar yng Nghanolbarth Cymru am fwy na 10 mlynedd, ac maen nhw wrth eu bodd o groesawu gwesteion i’r safle a’u helpu i gael gwyliau hunanddarpar rhagorol yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r cwpl wedi byw yn yr ardal gydol eu hoes ac maen nhw’n frwd dros gefn gwlad Cymru a phopeth sydd ganddo i’w gynnig. Mae agwedd gynnes a chroesawgar Eleri a Gwynne, a lleoliad gwych y bythynnod moethus, yn golygu bod gwesteion yn dod yn ôl o’r naill flwyddyn i’r llall.

Mae Eleri a Gwynne yn edrych ymlaen ac eich croesawu chithau.

Facebook

Iaith

English